Gwaith Ymchwil

Rydw i wedi creu’r rhan yma i’r blog i ddangos yr holl gwaith ymchwil i’r Final Major Project.

Fy syniad yn fyr yw adeiladu ty, a’i pheintio efo sloganau gwrth-ryfel ar y tu allan ac efo digwyddiadau rhyfel ar y tu fewn. Rydw i wedi bod yn paratoi a edrych i fewn i defnyddiau wahanol i neud yn siwr fy mod yn defnyddio’r deunyddiau cywir.

mapiau meddwl o’r gwaith, gyda plans yr adeilad ei hun, a map yn rhestru ffotograffwyr sydd wedi cymryd lluniau yn y Rhyfel Sofietaidd yn Afghanistan.

Ers hynny yr ydwyf wedi mynd ymlaen i edrych ar ffotograffwyr eraill megis Don McCullin, Robert Capa, Liu Heung Shing, a’r paentiwr Thomas Lea. Rydw i wedi creu mood boards i rhoi syniad i’m hun o’r hyn y hoffwn ei greu.

mood board rhyfel, gyda engreifftiau o weithiau y ffotograffydd Don McCullin
Mood Board y Ieuenctid Hitler, gan fy mod yn meddwl defnyddio milwyr ifanc fel rhan o’m waith
Mood Board adeiladau wedi’w difetha mewn rhyfel.

Ers i’r coleg gau oherwydd y Pandemic Covid-19, rydw i wedi cael fy rhwystro i fynd yn bellach i weld adeiladau sydd wedi’w thorri lawr. Rydw i wedi mynd i fyny i Llyn Elsi yn Betws-y-Coed a tynnu lluniau o’r tai Unnos sydd wedi syrthio.

i fyny’r allt i Llyn Elsi

dwi wedi bod wrthi’n creu fwy o waith ymchwil, gan creu dyluniadau o’r hun rydw i eisiau i cael fel prif ddarn.

darluniadau o’r waliau terfynol geiriau: Mae Rhyfel yn setlo dim
wal gyda geiriau Gwenallt: Pan fyddan ymhen flynyddoedd wedi tyfu i’w llawn maint, fe wel y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.
Geiriau: A oes heddwch
y waliau tu fewn, symbol o’r Ieuenctid Hitler, sydd wedi cael ei effeithio yn feddyliol i weithredu mewn ffordd y Natsiaid.
y drws ar y tu fewn, y wal yn eu orchuddio efo cerrig beddi. Popi gwyn yn symbol o heddwch
Rhan arall o ryfel-yr ysbytai a’r Red Cross
y Trenches

rydw i hefyd wedi bod yn gwneud fwy o waith ymchwil i fewn i arlunwyr megis Thomas Lea:

2,000 Yard Stare-Thomas Lea

Rydw i hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil ar yr arlunydd Antoni Tapies:

wall series Barcelona

Un o’r pethau rydw i wedi bod yn arbrofi efo ydy’r lliwiau, felly dwi wedi creu “colour plan”, i allu symboleiddio’r lliwiau dwi am ddefnyddio yn fy ngwaith.

colour plan #1
colour plan #2

y cam nesaf oedd archwilio i fewn i deunyddiau a fu’n addas i’w ddefnyddio.

Gan fy mod eisiau creu adeilad 8ftx8ft, roedd yn rhaid i mi weithio allan ffordd call a rhad i wneud hyn. fe wnes i penderfynnu defnyddio pren, gan mai hwn oedd yr opsiwn mwyaf realistig, ac mi es i ymlaen i gymharu MDF gyda Plywood. Ar ol siarad efo dad, fe wnes i pendrfynnu fod shutterply yn mynd i fod yn ddigon addas i’r gwaith yma. Ar gyfer ffram yr adeilad penderfynnais i ddefnyddio scant timber gan mai hwn oedd yr opsiwn rhatach. Mae’r pren i gyd am ddod o C.L.Jones yn Llanrwst.

Ar gyfer y paentio, roedd yn rhaid i mi feddwl yn drlywyr. Roedd paent acrylic ddim yn opsiwn gan ei fod mor drud, ac nad oes genai profiad gyda paent olew, ac mae eto yn drud. Penderfynais defnyddio interior emulsion walls and ceilings, ond roedd yn rhaid i mi fod yn ofalus oherwydd dwin gwybod all emulsion cracio a syrthio i ffwrdd. Penderfynais roedd yn rhaid i mi destio’r rhain allan felly es i i BnQ i nol testers emulsion a twb 2.5l o Undercoat primer, gan nad oes testers o’r rhain.roedd genai ddarn sbar o shutterply adref o waith yn y gorffennol felly dwi wedi trio ail greu rhan o un o’r waliau ar y darn o bren yma, gyda lliwiau mor agos a on i’n gallu cael o’r rhai on i angen.

mae’r emulsio yn gweithio ar ben yr undercoat, felly es i yn ol i BnQ a nol y canlynol:

es i i nol un arall o’r rhain i allu sicrhau fod genai ddigon ar gyfer y ddau ochr
hwn ydy’r emulsion dwi’n defnyddio. Mae genai un gwyn 5l, dau du a brown 2.5l, ac un coch 2.5l

y cam nesaf oedd creu maquette. Mae o i raddfa x10 gwaith yn llai na fydd yr un terfynol. Dyma’r canlyniad:

ar yr adeg yma o’n i eisiau ychwanegu to, ond rydw i bellach wedi newid fy meddwl.
mae wedi cael ei rhoi efo’i giydd efo scraps pren a double sided tape

roedd yn rhaid i mi wedyn ei beintio, ond wnes i hyn efo paent acrylig:

so ma’r pren di cyrraedd…so dwi wedi adeiladu adeilad…heb gorffen y gwaith paratoadol eto…

yn gyntaf roedd yn rhaid torri’r scant timber i’r meintiau cywir
a wedyn sandio nhw lawr oherwydd dwi methu torri pethau’n syth
a rhoi pethau efo’u gilydd a defnyddio screws dad i gyd
ac yn araf…ar ol 2 ddiwrnod o paratoi a mathemateg, roedden ni’n rhoi’r ty i fyny
she’s up…efo fi y tu fewn

rhywbeth sydd wedi bod yn handi i fi allu cael lluniau addas(gan ei fod mor fawr) yw’r lens expander dwi’n defnyddio, dyna pam mae’r llun yn edrych fel ei fod wedi plygu.

da ni di sicrhau fod golau y stafell y tu fewn i’r adeilad felly bod genai ddigon o olau i weithio, yr unig peth sydd wedi cael ei ddifetha yw’r ffaith bydd yn rhaid i fi stopio gweithio yn gynharach nac arferol gan fy mod yn gorfod sicrhau fod genai ddigon o olau i weithio ar y tu allan i’r adeilad.

next stage: Undercoat

Dwi wedi bod yn gweithio dros y ddau ddiwrnod diwethaf i gael yr undercoat ar y waliau tu fewn. Dwi wedi bod yn lwcus efo’r cyfaswm paent oedd genai ac felly dwi wedi llwyddo i orchuddio’r 4 wal gyda un twb primer, ac mae genai un ar ol ar gyfer y tu allan.

panorama view

y cam nesaf oedd creu y drws:

hwn ydy’r inspiration, fe wnes i ei ddarganfod ar Pinterest.
dyma’r darlun dwi am ddefnyddio
i cael yr effaith roeddwn i eisiau roedd rhaid torri’r pren.

Dwi wedi gorffen siapio’r pren ac wedi’w rhoi efo’i gilydd. Y cam nesaf yw ei wneud i edrych fel ei fod wedi’w thorri. Rydw i’n mynd i’w roi ar dan a wedyn torri’r ochrau i ffwrdd.

so the door is on
dyma’r drws!

Dwi di penderfynnu cario’n mlaen efo’r tu fewn cyn cychwyn y tu allan…

getting there…slowly
all done

felly…Mae di cymryd diwrnod i fi allu neud un wal, ac roedd yr un yma yn un o’r rhai hawsach felly mae’n mynd i fod lot hawsach i fi mesuro fy amser rwan.

Dwi wedi mynd ymalen i weithio ar ddau wal arall tu fewn i’r adeilad, gan newid fy syniadau y hollol.

dyma’r wal oedd i fod yn golygfa ysbytu, ond ar ol ei drio ar raddfa fawr nes i benderfynnu i beidio wneud hyn a cael 3 bachgen arall, efo un yn pwyntio gwn ar y hogia yr ochr arall.

dwi wedi newid y wal cyntaf hefyd i allu weithio efo’r syniad newydd:

dwi wedi ychwanegu chains ar y traed, a hefyd shot gwn i’r pen ar y ffigwr olaf.

Es i ymalen wedyn i neud y wal wrth y drws. Mae’r syniad gwreiddiol dal i fod yno, ond dwi wedi ei newid bach i weithio efo’r ffram drws, sydd ar y tu fewn, nid ar y tu allan fel roeddwn i’n bwriadu neud yn wreiddiol. Syniad y wal yma yw dangos y cerrig beddi o’r milwyr a gollodd eu fywydau. Mae’r ysbrydoliaeth yn dod o’r cerrig beddi yn Gwlad Belg.

dyma top y drws, dwi wedi ychwanegu’r geiriau “Chwe miliwn o Goed yng Nghaersalem” gan mae hwn ydi’r linell gyntaf yn y gerdd ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Rydw i wedi defnyddio brigau’r coed i llifo efo’u gilydd i greu weiren bigog.

Ar ffram y drws rydw i wedi penderfynnu cario’n mlaen efo gweddill y linell gyntaf y cerdd. Dyma golwg agosach ati:

Wrth weithio ar y gwaith yma rydw i wedi penderfynnu creu playlist addas ar YouTube i weithio efo’r gwatih. Dyma’r rhestr o ganeuon rydw i yn eu ddefnyddio:

The Call-Regina Spektor

Billie Eilish- No Time to Die

SVRCINA- Meet Me on the Battlefield

Kesha- Praying

The Black Eyed Peas- Where is the Love?

The Cranberries- Zombie

Ar ol weithio ymlaen efo’r waliau nes i benderfynnu peintio’r ffram yn ddu a rhestru y rhyfeloedd wahanol arnyn nhw.

Dwi wedi bellach gorffen y tu fewn i’r adeilad, ac dim ond angen eu dacluso, ond dwi am neud hyn ar ol i mi orffen y tu allan, iwneud yn siwr bod genai ddigon o baent ar gyfer yr holl adeilad.

Dyma’r wal olaf:

Dyma canlyniadau y tu fewn:

Dwi wedi cychwyn ar y tu allan ac wedi rhoi yr undercoat ymalen yn barod felly wnes i cychwyn wrth rhoi layer o paent brown ymalen ar pob wal cyn cychwyn ar y wal cyntaf

Dyma’r wal wedi gorffen:

19/4/20

dwi wedi neud yr ail wal ar y tu allan hedddiw, ac wedi addurno’r drws ar y tu allan

Sketchbook:

first page of sketchbook-study of artist
starting ideas at the beginning of the project
ar cychwyn y project, y syniad oedd i cael to dros yr adeiliad, ac felly oherwydd hynny roedd yn rhaid i mi edrych am math o golau i roi ynddi…dwi ddim efo to rwan.
artist study
dyma plan fach o’r hyn yr ydw i am ei greu
allan o’r gerdd y coed, dyma’r geiriau rydw i am ei ddefnyddio
doodles
music inspo&more doodles
dyma sut mae’r gwaith yn edrych ar y funud
ar ol trio a methu, dwi wedi penderfynnu creu rhywbeth wahanol ar gyfer y wal olaf y tu fewn…dyma’r plans
astudio gwaith Stanley Spencer
arbrofi efo pastel sialc
Llun hen. Arbrofi gyda primer undercoat a’r emulsion i sicrhau ei fod yn gweithio
astudiaeth o lun o Pinterest
gwaith a gafodd ei wneud tra’n y coleg yn y Dark Room
astudio gwaith Don McCullin
Astudio gwaith Thomas Lea
Astudio gwaith Anselm Kiefer
Astudio gwaith Stanley Spencer, Anselm Kiefer ac Paul Nash

Ar ol wythnos o edrych ar arlunwyr gwahanol, dwi wedi mynd yn ol i’r adeilad a’i orffen. Ar ol derbyn syniadau gan myfyrwyr eraill rydw i wedi penderfynnu creu prosiect ychwanegol, llai, i fynd efo’r gwaith gan edrych ar effaith y rhyfel o gartref.

Rydw i hefyd wedi derbyn cyngor i adio pethau 3D ar y tu fewn i’r gwaith:

dwi wedi ychwanegu at y weiren bigog i’w wneud yn 3D, efo papur, paent a glue gun.

heb ei beintio

Isod dwi wedi ychwanegu lluniau o’r camau olaf o’r gwaith:

newid mewn penderfyniad:

ar ol edrych ar y gwaith paratoadol unwaith eto, dwi wedi penderfynnu ychwanegu rhan o’r gerdd Rhyfel gan Hedd Wyn yn lle mwy o’r gerdd Y Coed gan Gwenallt:

Mae’r hen delynau genid gynt
Ynghrog ar gangau’r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A’u gwaed yn gymysg efo’r glaw.
-Hedd Wyn

Ffilmio:

Roedd yn rhaid symud yr adeilad y tu allan er mwyn ffilmio’r gwaith.

Dyma lluniau o’r adeilad ar ei fyny ar ol ei cymryd lawr a’i roi nol fyny.

Dyma’r ddarnau o gerddoriaeth rydw i’n eu defnyddio yn y fideo:

Dwi wedi bod yn gweithio ar y fideo trwy’r wythnos acrwan mae bron wedi’w orffen gyda mannau bach angen eu sortio:

bron a gorffen, angen ei torri lawr

Astudiaeth newydd i gyd fyn efo’r gwaith uchod:

Rydw i wedi penderfynnu creu gwaith llai, yn edrych i fewn i sut oedd bywyd i’r bobl cyffredin cyn, rhwng ac ar ol y ddau rhyfel. dyma fy ngwaith ymchwil. Rydw i’n gobeithio gyda ddigon o amser byddaf yn gallu creu weithiau celf i gyd fynd efo’r gwaith.

dyma paentiad sydd yn dangos sut oedd pobl yn teimlo o tu fewn eu tai eu hunain yn ystod y dirwasgiad 1930au ymlaen.

dyma’r llun gwreiddiol a roddodd inspiration i’r paentiad uchod.
symbol o ddiweithdra a ddirwasgiad di-dor

Dwi wedi dechrau ar ddarn o waith sy’n targedu y pobl diwaith yn ystod y 1930au, lle ddechreuodd y dirwasgiad mynd yn waeth eto ar ol Cwymp Wall Street. Roedd y wlad mewn dirwasgiad yn barod ers ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd roedd llai o alw am y diwydiannau trwm oherwydd roedd gwledydd fel Japan wedi moderneiddio eu diwydiannau, ac felly doedd dim galw am y deunyddiau a ddaeth o lefydd fel y Rhondda, felly pan ddaeth y milwyr yn ol o Ryfel fe sylweddolynt nad oedd gwaith ar ol iddynt ac ddaethon nhw’n ddiwaith ac syrthio i fewn i dlodi a dirwasgiad.

Astudiaeth cyn-ryfel, Rhyfel Byd Cyntaf.

Rydw i wedi ysgrifennu traethawd yn ateb y cwestiwn canlynol:

I ba raddau y gwnaeth diwygiadau’r llywodraeth Ryddfrydol lwyddo i leddfu’r broblem yn ymwneud a thlodi yn ystod y cyfnod rhwng 1906 a 1914?

Ar ddechrau’r 20fed ganrif sylweddolodd y Llywodraeth fod y broblem o thlodi llawer waeth nag oedden nhw’n meddwl. Cyflwynodd y Llywodraeth Ryddfrydol newydd deddfau r mayn ateb y broblem. Sylweddolynt pa baobl oedd angen a gallent. Yr oedd y Deddfau yn llwyddiannus yn tymor-byr ond ddim mor llwyddiannus yn y tymor-hir.

Penderfynnodd y Rhydfrydwyr helpu’r plant, yr henoed, y gweithwyr, y claf, a’r di-waith. Pasiwyd pedwar ddeddf er mwyn helpu’r plant. Bu ddau o’r rhain yn lwyddiannus. Cafodd y cynghorau lleol yr hawl i ddarparu prydau bwyd yn rhad i blant o’r teuluoedd tlotaf. Hwn oedd y ddeddf prydau bwyd rhad (1906). Talwyd am y prydau gan drethi lleol. Erbyn 1914 derbynai dros 158,000 o blant brydau bwyd rhad unwaith y dydd, bob dydd. Canfu’r ymchwilwyr fod tyfaint y plant wedi arafu a bod eu pwysau corfforol wedi gostwng yn ystod gwyliau’r ysgol. Awgryma hyn bod prydau bwyd yn gyfraniad pwysig I iechyd plant tlawd. Er mwyn helpu sefyllfa’r henoed, cyflwynwyd y ddeddf pensiynau yn 1908. Roedd hyn yn llwyddiant oherwydd nad oedd eu dyfodol yn dibynnu a’r tlotai. Roedd pawb yn derbyn pensiwn dros 70 mlwydd oed, oherwydd nad oedd yn ddibynnol ar gyflog. Er mwyn helpu’r Gweithwyr draparir deddf Iawndal y Gweithwyr yn 1906. estyniad o deddf 1887 oedd hon, ac roedd yn weithredol dros chwe miliwn ychwanegol o weithwyr a allai erbyn yn hawlio iawndal am anafiadau ac afiechydon oedd wedi eu hachosi gan amodau gwaith. Er hyn oherwydd na ohennwyd isafswm cyflog mewn rhai busnesau achosodd ymdrechion y llywodraethau I sefyllfa tlodi I waethygu. Roedd methiant I gyflwyno nifer bendant o oriau gwaith yn ychwanegu at hyn. Ar gyfer helpu’r Claf sefydlwyd deddf yr Yswiriant Cenedlaethol (1911), Rhan 1. Sefydlodd y ddeddf yma gynllun yswiriant a’i fwriad oedd atal tlodi o achos salwch. Gallai gweithwyr yswirio eu hunain rhag salwch a gallent dynnu arian oddi wrth y cynllun os aent yn sal a methu gweithio. Cawsai gweithwyr oedd ag yswiriant 10 swllt yr wythnos pan oeddynt yn sal ond dim on am uchafswm o 26 wythnos. Un rheswm mawr dros dlodi oedd salwch a cholli gwaith. Felly byddai arian yn dod I mewn gan ‘Fudd-dal yswiriant tal salwch’ yn helpu teuluoedd mewn amseroedd caled. Er mwyn helpu’r Di-waith cyflwynwyd y Cyfniwedfeydd Llafur yn 1909. roedd y rhain yn debyg I ganolfannau gwaith modern lle gallai’r di-waith gofrestru a lle gallai cyflogwyr ddod o hyd I weithwyr addas. Erbyn 1914, roedd 1 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi drwy’r gyfnewidfa lafur. Roedd y cymorth a roddai’r Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol yn ddefnyddiol iawn i’r gweithwyr, gan y golygai na fyddent bellach yn dlawd ar un waith. Roedd hefyd yn lleihau’r siawns o fod yn dlawd gan fod ganddynt 15 wythnos I chwilio am ffynhonnell arall o incwm. Wnaeth yr rhain newid agwedd y llywodraeth tuag at y tlodion. Cyn y ddiwygiad Rhyddfrydol roedd y llywodraeth yn dilyn y polisi Laissez-faire ac yn beio’r broblem ar meddwdod, diogi ac agwedd troseddol y tlawd eu hun. Ar ol canfyddiadau Booth a Rowntree, sylweddolynt roedd yn amhosib I fyw ar y cyflog a derbynai’r tlawd. Roedd maint y tlodi yn fwy nag oedd y Llywodraeth yn feddwl. Bu’r ffaith fod bron 30% o Llundain ac Efrog yn dlawd yn meddwl fod y broblem yn fawr iawn gan ei fod yn rhan o’r ddau brif ddinas yn Lloegr. Dechreuant ymyrryd yn bywydau’r tlawd. Roeddynt yn credu bod ganddynt rol mewn cael gwared a tlodi. Cychwynnodd diwygiad cymdeithasol er nad bwriad y llywodraeth oedd ffurfio Gwladwriaeth les Gynhwysfawr.

Ar ochr arall y ddadl, nad oedd llawer y diwygiadau yn orfodol. Roedd y niferoedd oedd yn cael eu cynorthwyo yn isel. e.e. Nad oedd yr Yswiriant Cenedlaethol yn ddigonol i’r teulu I gyd. Roedd ar gyfer y gweithiwr ar gweithiwr yn unig. Roedd cyfyngiadau ar y pensiynau, gan dim ond pobl dros 70 mlwydd oed oedd yn cael derbyn, derbyn llai na 21 swllt yr wythnos ac heb mynd i’r carchar oedd yn ei dderbyn. Roedd effaith y diwygiadau ar y rhai oedd yn cael eu cynorthwyo yn fychan. Dim on y gweithwyr yn unig oedd wedi eu hyswirio oedd yn derbyn triniaeth meddygol am ddim. Nid oedd oedd aelodau eraill y teulu yn elwa oddi wrth y cynllun, waeth pa mor sal bynnag fyddent. Bu’r ffaith fod diwygiadau yn cael ei gyflwyno yn peth dda, ond roedd eu heffeithrwydd yn fychan. Y mae dadl, i’w wneud efo Deddf Yswiriant Gwladol (1911), Rhan 2, fod y polisi yn hybu tlodi mewn gwirionedd, gan fod hyn yn golygu gostwng cyflog i’r gweithwyr ac nad oedd yn weithredol ond am 15 wythnos. Golygai hyn nad oedd cefnogaeth ariannol ganddynt wedi’r cyfnod hwn. Mae dadl, efallai, yn enwedig efo’r Yswiriant Cenedlaethol, fod hyn yn gallu arwain at fwy o dlodi oherwydd fod y gweithwyr yn gorfod cyfrannu arian o’i gyflog ei hun tuag at y cynllun, roedd hyn yn golygu fod eu cyflog wythnosol/misol yn llai, ac efallai yn golygu mwy o dlodi I rai teuluoedd.

Roedd llawer o bobl dosbarth uwch, ac y bobl a fu’n rhan o’r Blaid Rhydfrydwyr yn gwrthwynebu’r diwygiadau, gan ar gyfer rhai, y nhw a fu’n gorfod cyfrannu ar ffurf trethi. Erbyn 1914, bu ataliad i’r ddiwygio oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Rhyddfrydwyr eisiau ehangu pellach ar y diwygio cymdeithasol ond yn methu oherwydd fod problemau waeth, megis ymosodiad o wlad arall e.e. yr Almaen. Nad oedd pob ddeddf yn orfodol. Bu hyn yn broblem, yn enwedig efo’r Deddf Prydau Bwyd Rhad 1906, oherwydd er gwelwyd llwyddiant yn y siroedd lle cynhaliwyd y ddeddf, roedd I fyny i’r cynghorau ddewis a oedden nhw eisiau cynnal y ddeddf.

Er fod y Rhyddfrydwyr wedi trio I ateb y broblem o dlodi, mae’n amhosib ddeud eu fod wedi bod yn hollol lwyddiannus, oherwydd rydym dal I weld tlodi yn y newyddion, heddiw. Yn gyffredinol, nododd y diwygiadau Rhyddfrydol drobwynt o’r agwedd laissez-faire tuag at agwedd mwy cyfunol. Ni wnaeth y diwygiadau wneud argraff mawr ar y problem tlodi. Roedd y pensiynau a roddwyd yn annigonol a chyfyngwyd budd-daliadau diwethdra I rai mathau o waith, ac wedyn nid oeddynt ond yn darparu ar gyfer y gweithwyr, ac nid ar gyfer ei deulu. Roedd y llywodraeth yn barod I ymyrryd er mwyn helpu’r tlawd, ond roedd rhaid i’r tlawd hefyd eu helpu eu hunain, drwy wneud cyfraniadau tuag at eu budd-daliadau.

Astudiaeth rhwng y ddau ryfel:

Roedd y 1930au yn gyfnod o ddirwasgiad, amddifadedd ac dirywiad di-dor.  Pa mor ddilys yw’r dehongliad yma? 

Dyma’r ddehongliad traddodiadol o’r 1930au.  Cafodd ei ffurfio yn y 1940au a’r 1950au.  Dehongliad traddodiadol yw lle bod rhywyn o’r cyfnod a astudwyd wedi ysgrifennu llyfr, cylchgrawn, erthygl mewn papur newydd I ddweud beth a ddigwyddodd yn y cyfnod yno.  Mae ddau fforddd o edrych ar digwyddiad.  Yr ail yw’r dehongliad adolygiadol.  Dechreuodd pobl ysgrifennu dehongliadau felly, ar ol y 1970au. Yn ol y ddehongliad adolygiadol yr oedd y 1930au yn gyfnod o ffyniant economaidd a thwf mewn safonau byw.  Ffurfwyd y dehongliad yma yn y 1970au a’r 1980au. 

Yr oedd yr haneswyr traddodiadol yn ffocysu ar ffigyrau diweithdra ardaloedd diwydiannol. Daeth delweddau fel llyfr George Orwell- Road to Wigan Pier a dynion Jarrow mewn fflat caps yn symbolau o’r cyfnod. Roedd teimlad o obaith yn y cyfnod ar ol ennill y rhyfel, gan redden nhw wedi cael addewid o Wladwriaeth Les a dim diweithdra, er hyn, mae’r cwestiwn yn awgrymu fod y 1930au yn gyfnnod o ddirwasgiad, amddifadedd a dirywaid di-dor.

Dehongliad Traddodiadol 

Ffynhonnell 1 

Many of the larger houses in St Anne’s ward go back to the late eighteenth century, when they were the dwellings of prosperous merchants. Now they make slums even more deplorable than the back-to-back cottage, each room sub-let to a separate family, dilapidated and comfortless, lacking sanitary conveniences and even taps and sinks, nearly every family dependent for its cooking and heating of water on an incredibly unsuitable fire-grate.’ 

Jones, D.Caradog (ed.), The Social Survey of Merseyside Vol.i, pp. 264-6, Liverpool University 1934 

Mae’r ffynhonnell o werth i hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn dystiolaeth o amddifadedd yn y 1930au.  Mae’r ffynhonnell yn trafod amodau byw yn ward St Annes yn ardal Lerpwl. Disgrifir yr adeiladau fel slymiau ‘more deplorable than the back-to-back cottage’.  Mae’r ffaith ei fod yn dweud fod ystafelloedd yn ‘sub-let’ i teuluoedd gwahanol yn awgrymu bod pobl mor dlawd, eu bod methu fforddio rhent, fel ei bod yn gorfod rhentu allan ystafell i deuluoedd eraill a bod teuluoedd eraill ond yn gallu fforddio rhentu un ystafell.  Mae’r awdur o werth i hanesydd oherwydd ei fod yn rhywun o’r cyfnod sydd wedi asesu I fewn I amodau byw yn y cyfnod.  Bu Jones.D. Caradog yn asesu sut roedd y dosbarth gweithiol yn byw gyda incwm isel, ac hefyd amodau byw y ddiwaith.  Mae’r dyddiad o werth i hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn cofnodi cyfnod oedd ddwy-flynedd ar ol y dyddiad yr oedd y gwaethaf o’r dirwasgiad i fod drosodd.  Mae’r pwrpas hefyd yn bwysig I hanesydd oherwydd ei fod wedi gwneud archwiliad cymdeithasol yn benodol ar amodau cymdeithasol ardal Lerpwl.  Gallaf cefnogi’r ffynhonnell yma gan ddweud ei fod yn ddinas, er hyn mae cyfyngiad I’r ffynhonnell gan ei fod wedi’w selio ar un ardal yn unig.

Dengys y ffynhonnell sut bod tai o’r Deunawfed Ganrif mewn cyflwr gwell na’r slymiau, gan eu ddisgrifio yn ‘Deplorable’ gan nad oedd dim cysur, dim cyfleusterau iechyd, weithiau yn cynnwys pethau syml fel sinc a tapiau.  Mae’n dangos fod bywyd wedi gwaethygu yn yr adeg yma ac bod y pobl a oedd yn byw yn y slymiau yn byw mewn dirwasgiad llwyr, heb cyfleusterau ac yn dibynnu yn lle yr oedden yn byw, nad oedd ganddyn gwaith. ‘…lacking sanitary conveniences and even taps and sinks…’.  Mae’n debyg all hanesydd sy’n astudio’r 1930au ddefnyddio’r tystiolaeth yma er mwyn disgrifio yn ei waith sut bod safon byw yn ystod y cyfnod, ac beth oedd ei effaith ar y bobl.  Byddai’r haneswr yn dilyn y golwg traddodiadol, gan fod y ffynhonnell yn disgrifio’r cyfnod I fod yn warthus o sal ar gyfer cyfleusterau iechyd.  Mae’n bosib fyddai haneswr fel Juliet Gardiner defnyddio’r tystiolaeth yma wrth ysgrifennu ei llyfr ‘The Thirties: An Intimate History’. “…the terrible slums and overcrowded housing that blighted most large industrial cities.” 

Ffynhonnell 2 

‘’ Miss WILKINSON – I beg to ask leave to present to this Honourable House the Petition of the people of Jarrow praying for assistance in the resuscitation of its industry. During the last 15 years Jarrow has passed through a period of industrial depression without parallel in the town’s history. Its shipyard is closed. Its steelworks have been denied the right to reopen. Where formerly 8,000 people, many of them skilled workers, were employed, only 100 men are now employed on a temporary scheme. The town cannot be left derelict, and therefore your Petitioners humbly pray that His Majesty’s Government and this honourable House should realise the urgent need that work should be provided for the town without further delay. 

Sir NICHOLAS GRATTAN-DOYLE – I beg to ask leave to present a Petition signed by 68,502 people on Tyneside and adjacent areas on behalf of the town of Jarrow. This humble Petition showeth that, whereas for 15 years Jarrow has endured industrial depression without parallel in the town’s history, all efforts for the resuscitation of the industry have failed, and the future holds no prospect of work for its many thousands of unemployed. Therefore, your Petitioners humbly pray that the necessary act of assistance be given by the Government for the provision of work in the town of Jarrow.’’ 

Parliamentary Transcript; Petitions for Jarrow; 04 November 1936, vol 317 

Mae ffynhonnell Ellen Wilkinson o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dystiolaeth o gorymdaith newyn Jarrow yn apelio, gyda’u Aelod Seneddol, sef Ellen Wilkinson am gymorth I ddianc rhag y dirwasgiad, amddifadedd, ac y dirywiad di-dor oedd yn bodoli yn Jarrow, gan cyflwyno ddeiseb.; “The town cannot be left derelict, and therefore your Petitioners humbly pray that His Majesty’s Government and this honourable House should realise the urgent need that work should be provided for the town without further delay.” 

Testun y ffynhonnell yw diweithdra torfol di-dor ac roedd yr ardal yn dioddef oherwydd y ddirwasgiad yn y diwydiannau trwm – adeiladu llongau a’r diwydiant dur, nid oedd gwaith arall i gael, felly roedd yn ardal mewn dirwasgiad llwyr.  Roeddent yn mynd I Lundain I gyflwyno ddeiseb I’r senedd gan drigolion Jarrow, trwylaw ei heilod seneddol, Ellen Wilkinson.  Mae’r ffynhonnell o werth i hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dangos fod y diweithdra a’r dirwasgiad economaidd yn effaith tymor hir ‘15 years.’  Dywedwyd fod y tref wedi marw ‘left derelict’ ac yn crefu ar y llywodraeth I wneud rhywbeth, gan bod dim swyddi parhaol eraill I gymryd eu lle, ac roedd y poblogaeth gyfan yn ddiwaith.  Mae o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dangos dau diwydiant, dan ddirwasgiad mawr a ddioddefaint torfol, hir-dymor.  Mae arwyddocad y dyddiad o bwys I hanesydd traddodiadol oherwydd mae yng nghanol y 1930au, nid y 30au cynnar pan oedd y dirwasgiad I fod ar ei hanterth.

Ffyhonnell 3 

When you see the unemployment, figures quoted at two million, it is fatally easy to take this as meaning that two million people are out of work and the rest of the population is comparatively comfortable. I admit that till recently I was in the habit of doing so myself. I used to calculate that if you put the registered unemployed at round about two millions and threw in the destitute and those who for one reason and another were not registered, you might take the number of underfed people in England (for everyone on the dole or thereabouts is underfed) as being, at the very most, five millions.’ 

This is an enormous under-estimate, because, in the first place, the only people shown on the unemployment figures are those actually drawing the dole – that is, in general, heads of families. An unemployed man’s dependents do not figure on the list unless they too are drawing a separate allowance. A Labour Exchange officer told me that to get at the real number of people living on (not drawing) the dole, you have got to multiply the official figures by something over three. This alone brings the number of unemployed to round about six million. But in addition, there are great numbers of people who are in work but who, from a financial point of view, might equally well be unemployed, because they are not drawing anything that can be described as a living wage……’ 

‘…. Take the figures for Wigan, which is typical enough of the industrial and mining district. The number of insured workers is round about 36,000 (26,000 men and 10,000 women). Of these, the number unemployed at the beginning of 1936 was about 10,000. But this was in winter when the mines are working full time; in summer it would probably be 12,000. Multiply by three, as above, and you get 30,000 or 36,000. The total population OF Wigan is a little under 87,000; so that at any moment more than one person in three out of the whole population – not merely the registered workers – is either drawing or living on the dole….’ 

Orwell, George, The Road to Wigan Pier,Victor Gollankz, 1937 

Mae ffynhonnell George Orwell o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dystiolaeth o niferoedd o bobl ddi-waith o’r cyfnod ac yn disgrifio fod y cyfnod yn un o ddirywiad di-dor, a oedd yn bodoli yn Lloegr yn y cyfnod ac astudiwyd. ‘I used to calculate that if you put the registered unemployed at round about two millions and threw in the destitute and those who for one reason and another were not registered, you might take the number of underfed people in England (for everyone on the dole or thereabouts is underfed) as being, at the very most, five millions.’   Testun y ffynhonnell yw diweithdra torfol di-dor yn Lloegr, ond yn enwedig yn Wigan.  Mae’n dangos tystiolaeth o ffigyrau, a efallai ag astudiwyd yn anghywir oherwydd nad oedd pawb wedi’w cofnodi ac felly nad oedd pawb yn cael eu cyfri, felly yn ol George Orwell, byddai’r ffigyrau wedi’w dyblu o leiaf.  Dywedwyd, fod poblogaeth Wigan o dan 87,000, ac roedd o leiaf un allan o tri yn dioddef ac yn byw ar y dol, neu yn agos ati. Er hyn nad yw’r ffigyrau yma yn gywir oherwydd nid oedd pawb yn gallu hawlio budd-dal diweithdra e.e. marched a gweithwyr nad oedd wedi’w yswirio. Mae o werth i hanesydd oherwydd mae’n dangos tystiolaeth o ddirwasgiad, amddifadedd a dirywiad di-dor y cyfnod, sy’n ategu at y cwestiwn uchod.  Mae George Orwell o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn byw ac yn ysgrifennu yn ystod y 1930au, ag astudiwyd yma, ac felly efo barn hanesydd traddodiadol, gan ei fod yn llygad dyst.   Bu George Orwell yn anarchydd yn hwyr yn y 1920au, ac erbyn y 1930au yn ystyriedd ei hun yn sosialydd, dyma pryd penderfynnodd ysgrifennu am tlodi ac diweithdra o ran glowyr yng Ngogledd Lloegr, ac felly cychoeddwyd y llyfr, The Road to Wigan Pier’ yn 1937.   Mae arwyddocad y dyddiad o bwys I hanesydd traddodiadol oherwydd mae yng nghanol y 1930au, sef y cyfnod sy’n cael ei astudio. 

 Dehongliadau Adolygiadol 

Ffynhonnell 1 

A youth of 20 for £2 10s on h.p can buy himself a suit … the girl can look like a fashion at even lower prices. You may have three half pence in your pocket and not a prospect in the world, and only a corner of a leaky bedroom at home … but in your new clothes you can stand on a street corner … in a private day-dream of yourself as Clark Gable or Greta Garbo which compensates you a great deal’

George Orwell ‘Road to Wigan Pier’

Mae’r ffynhonnell yma o werth I hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn son am newidiadau mewn prisoedd ar gyfer dillad. Mae’n dangos nad oedd bywyd mor ddrwg ac mae’r opsiynau o ddillad yn enwedig ar gyfer mewched wei’w lleihau ond roedd y cyflogau wedi aros yr un peth, sy’n golygu fod ei ysbryd meddyliol yn codi gan eu fod yn edrych yn well, ac mewn dillad cyfforddus.‘in a private day-dream of yourself as Clark Gable or Greta Garbo which compensates you a great deal’

Mae George Orwell o werth i hanesydd oherwydd ei fod yn ysgrifennu am rhannau wahanol o brydain, ac felly nad oedden nhw I gyd yn dioddef yr un peth. Mae’r ffynhonnell yma o werth I hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn pwysleisio roedd pobl yn mwynhau bywyd yn fwy nag oedden nhw or blaen oherwydd gostyngiad costau nwyddau. Mae’n debyg yn y llyfr ag ysgrifennwyd, nad oedd pob rhan o brydain yn mwynhau bwywd yr un fath a’r rhain. Mae’r llyfr o werth I hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn orchuddio Prydain i gyd, nid un ardal yn unig. Mae’r dyddiad o bwys I hanesydd oherwydd cafodd ei ysgrifennu yn 1937. Er fod hyn yn dyddiad traddodiadol, mae’n dilyn diwedd y 30au ac mae gan George Orwell barn wahanol am yr hyn a fu fywyd yn y cyfnod yma. Mae’n amlwg ac o werth i hanesydd y gallwn ddweud fod y ddirwasgiad, amddifadedd a dirywaid di-dor, ond erbyn diwedd y ganrif roedd bywyd wedi gwella.

Ffynhonnell 2 

A brochure for a Prestatyn holiday camp that opened in 1939.

Mae’r ffynhonnell yma o werth i hanesydd adolygaidol oherwydd ei fod yn dangos newid yn yr amser wrth i’r cwmni Thomas Cook sefydlu gwersyll gwyliau yn 1939, er mwyn rhoi adloniant newydd i pobl pob oedran.

Oherwydd y rhyfel, a’r gostyngiad isel yn oriau gwaith roedd gan y bobl fwy o amser hamdden I fynd ar wyliau. Cafodd y teledu ei greu yn ystod y 30au ond nad oedd llawer o bobl yn gallu eo hyfforddio. Roedd y mwyafrif yn ddibynnu ar y sinema. Roedd y cwmni Pathe News yn cadw pobl yn ymwybodol o’r hyn a fu’n digwydd yn ystod y rhyfel. Er hyn roedd y newyddion a roddid yn cael ei monitor gan y llywodraeth sc felly yn dangos fod Prydain yn ennill y rhyfel. Roedd hefyd yn lle dda ar gyfer ffilimiau a oedd yn cael ei wylio ar ol y rhyfel ac i fewn i’r 30au. Mae’r ffynhonnell o werth i hanesydd oherwydd ei fod yn dangos er fod y wlad yn dioddef o dirwasgiad economaidd ac amddifadedd a tlodi, roedd y boblogaeth yn gallu darganfod rhyddid a gallu mwynhau eu hunain ar wyliau mewn ardaloedd megis Prestatyn, ar lan y mor, a oedd yn neud I bobl dosbarth canol deimlo fel eu bod yn grand fel y dosbarth uwch. Mae’n debyg mi roedd cyfyngau i’r gwersyll gwyliau yma gan mae’n debyg nad oedd pawb yn gallu hyfforddio i fynd yna. Mae’n debyg hefyd, fel y gwelwyd yn ystod yr ail rhyfel byd efo’r efaciwis, nad oedd pobl y ddinasoedd wedi gweld glan y mor o’r blaen ac felly ddim yn gwybod sut i ymdrin a’r golygfeydd newydd.

Ffynhonnell 3 

 ‘He gave a glowing account of the Team Valley Trading Estate in the North East district which he said was like a romance and was ultimately expected to find work for some 20,000 people. Particularly successful had been the factories which were let to small manufacturers or traders at £1 a week, in which as many as thirty-five men or women might be employed. The Treforest Estate in South Wales is also most promising, although not quite comparable with Team Valley, and it had been contributed to the general hopefulness which now characterised the South Wales area.’

Memo written on behalf of the Minister of Labour, Ernest Brown, to Prime Minister Stanley Baldwin, 20th October 1937

Mae’r ffynhonnell yma o werth i hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn dilyn y testun o pobl mewn cyflogaeth y 1937. Er ei fod wedi ei ysgrifennu yn 1937, mae’n werthfawr I hanesydd adolygiadol nid hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn dilyn barn adolygiadol, sy’n golygu ei fod yn credo roedd bywyd yn gwella i rai yn y 30au, ond nid pawb. Roedd diwethdra yn broblem fawr yn y 30au efo’r dirwasgiad oherwydd roedd diwydiannau glo, llechi, a llongau e.e. y diwydiannau trwm yn dioddef ar ol y rhyfel oherwydd diffyg galw. Mae’r ffynhonnell yma yn brawf yr oedd hyn yn gwella erbyn diwedd y ganrif ac bu llefydd megis Gogledd Dwyrain Lloegr a De Cymru yn ffynnu efo gwaith. ‘Team Valley Trading Estate in the North East district… small manufacturers or traders at £1 a week, in which as many as thirty-five men or women might be employed.’ ‘The Treforest Estate in South Wales is also most promising, although not quite comparable with Team Valley, and it had been contributed to the general hopefulness which now characterised the South Wales area’

Mae’r awdur o werth i’r hanesydd oherwydd ei fod wedi helpu cael gwaith I bobl ddi waith fel sydd I’w weld o dogfen seneddol yn Llundain: There are ex-service men who have been trained by the Ministry of Labour in bricklaying, plastering, and so on. Why do not the Labour party give these men a chance so that they can get work? As an ex-service man, I am of opinion that the party opposite only care for the ex-service men when they can make capital out of them.” Mae cyfyngiad i’r ddehongliad yma oherwydd ei fod yn canolbyntio ar ardaloedd diwydiannau trwm yn unig ac nid ardaloedd diwydiant ysgafn a fuasai hefyd yn dioddef o ddiweithdra.

Mae’r cwestiwn yn awgrymu fod dirwasgiad, amddifadedd a dirywiad di-dor yn ystod y 1930au.  Ar ol edrych dros ddau farn, yr un traddodiadol a oedd yn awgrymu fod pawb yn dioddef, a’r farn adolygiadol a oedd yn awgrymu ei fod yn dibynnu ar eich statws dosbarth, ac yr ardal yr oeddech yn byw, gallaf ddweud fod y 1930au yn gyfnod o ddirwasgiad a dirywiad di-dor.  Mae’n amhosib dweud fod y 1930au yn cyfnod o amddifadedd llwyr oherwydd nad yw hyn yn wir.  Nad oedd pawb yn dioddef. 

Bibliography

1. Jones, D.Caradog (ed.), The Social Survey of Merseyside Vol.i, pp. 264-6, Liverpool University 1934

2.  Parliamentary Transcript;Petitions for Jarrow; 04 November 1936, vol 317

3. Orwell, George, The Road to Wigan Pier,Victor Gollankz, 1937 

4. Orwell, George, The Road to Wigan Pier,Victor Gollankz, 1937 

5. A brochure for a Prestatyn holiday camp that opened in 1939.

6. Memo written on behalf of the Minister of Labour, Ernest Brown, to Prime Minister Stanley Baldwin, 20th October 1937

Canfyddiadau ar-lein, iaith Saesneg:

The depression and deprivation of Wales and England during the 1930’s was the result of two key factors; the Wall Street Crash and being too dependant on heavy industries. In 1929, the American Stock market crashed and America recalled all the loans they had given to other countries in order to try and save their own economy. This generated a global depression. After the end of the First World War, Britain failed to modernise it’s industries in the way other countries were successful in doing. This made the heavy industries less profitable as countries such as JApan became cheaper to import products from. The closure of mines, shipyards, and steelworks resulted in a sharp rise in Unemployment in Britain. This in turn was detrimental to an already struggling economy. The Unemployment act 1934 set up an Unemployment Assistance Board which was responsible for carrying out a means test; these ensured only those in desperate need of financial support recieved it- who was considered desperate depended on the views of their local government. The impact of the liberal Government was limited due to the start of the world war in 1914. There had been plans to expand their social reforms however, the money had to go towards the war efforts. Had it not been for the war, the issue of poverty could have been alleviated further.

During World War Two the government became involved in people’s lives. The Beveridge Report indentified five major social problems which had to be tackled.

Throught World War Two, Britain was run by a Government which included Labour, Conservative and Liberal politicians. Winston Churchill became Prime Minister and led the British Government for the most of the war. The government became much more involved in people’s lives during the war. Far from being resented, most people welcomed this Government intervention and wanted it to go further. The Government was seen to be taking an active interest in providing for the welfare of the British people. The war greatly affected how people in Britain lived their lives.

Rationing

Britain is an island and by the outbreak of World War Two, it did not have enough farmland to sustain it’s increased population. The problem was solved by importing a great deal of goods from the British Empire. The German government tried to disrupt delivery of goods by sea to Britain. The Battle of the Atlantic saw the destruction of many British merchant ships by German U-boats. In order to cope with reduced supplies, in 1940 the Government introduced a number of measures:

The Government organised the rationing of foodstuffs, clothing and fuel during the war.

The price of restaurant meals was limited.

Extra milk and meals were provided for expectant mothers and children.

Rationing helped to change attitudes- the fact that everyone was restricted to buying a certain amount of goods, created a sense of sharing and cooperation in Britain. It was accepted that the Government was more involved in people’s health and intake.

Other works made during this project:

Storiel

cyn i mi ddechrau y final major project fe wnes i mynedu ddau ddarn o waith i fewn i’r Arddangosfa Agored yn Storiel, Bangor. Rydw i’n hapus i ddweud fy mod wedi cael un darn o gwaith sydd wedi cael ei ddewis i gael ei arddangos. Oherwydd y Pandemic Covid-19, roedd rhaid iddyn nhw canslo’r arddangosfa, ond mae gennym ddyddiad newydd o Hydref 24-Ionawr 2il. Nad ydy’r dyddiadau yma yn sicr.

dyma’r ddarn o waith a gafodd ei ddewis gyda lluniau yn dangos y paentiad yn cael ei greu:

Coedwig Dinorwig ger Llanberis

Dros y ‘gwyliau’ pasg, dwi ddim wedi bod yn canolbwyntio yn hollol ar y gwaith yma, ond ar gwaith i gael ei roi i fewn i Young Artists Summer Show y Royal Academy of Arts. Gan bod y dyddiad terfynol i roi gwaith i fewn ar y 24fed o mis Ebrill, penderfynnais i roi fwy o amser i fewn i hyn. I gychwyn roeddwn i eisiau creu rhywbeth i wneud efo’r feirws, ond dim mewn ffordd iddo fod yn rhwybeth drist, felly creuais paentiadau o’m ffrindiau mewn grwpiau neges wahanol:

dwi bellach wedi anghofio am y testun yma ac wedi penderfynu peintio portreadau sengl yn ei le:

Dyma’r tair ddarn o waith nes i roi i fewn i’r arddangosfa:

Melania Pahome in Blue

Description:

Mel is 20 years old and wishes to be 20 forever, that is why she loves looking young. Her hair is blue because it is not only her favourite colour but it is inspired by her favourite artist Halsey. It represents an era that really connects with her (badlands). She is not smiling in this photo because it was the last time she was in college due to lockdown. Blue represents all of her emotions: its not a cold colour, it also shows when she’s deeply happy, like when she’s at live concerts. She loves to experiment with her style and doesnt fit into an aesthetic, she likes being different, and shows this through her art. She is originally from Romania and moved to the UK five years ago. In Romania, this hairstyle and makeup is considered a rebellion. To her, this is her being herself, unapologetically. This is HER rebellion.

Questioning.

This is an image i did a few years ago for my dad’s work

Wicca

Description:

This is an Acrylic painting on 300msg paper. This is a painting of Meg Jones, who is also a student on the Foundation course in Coleg Menai. The patterns on her face are Wiccan designs. Wicca being the form of modern paganism, a tradition that was founded in England in the mid 20th Century, and claiming its origins in pre-Christian religions. There are many variations on the core structure, and the religion grows and evolves over time. It is divided into a number of diverse lineages, sects and denominations, referred to as traditions, each with its own organisational structure and level of centralisation.
Wicca is typically duotheistic, worshipping a Goddess and a God. These are traditionally viewed as the Moon Goddess and the Horned God, respectively.
These designs were painted as part of a Halloween night, and there is no intention for offence. This image has a peronal view, as Meg has interest in the Wicca history and also Halloween.

Leave a comment