Final Major Project

Rydw i’n fyfyriwr yn Goleg Menai yn astudio’r Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio. Ers mis Mawrth rydw i wedi bod yn gweithio o gartref i ddod a’r syniadau a gefais tra’n y coleg i fywyd. Mae gennai ddau ddarn o waith gorffenedig. Mae’r un cyntaf yn edrych ar symboliadau gwrthryfel, a’r ail yn edrych ar yr effaith ar y bobl ar ôl y rhyfel (rhyfel byd cyntaf). Mae’r fideo isod yn dangos y gwaith gorffenedig. Isod, rydw i wedi ychwanegu rhan o’r gwaith ymchwilio i ddangos sut ddaru’r ddau ddarn o waith yma ddod i ddigwydd.

I am a student in Coleg Menai studying the Foundation course for Art and Design. Ever since March i have been working from home to bring my ideas that i had while still in college to life. I have two finished pieces of work. The first looks at anti-war, and the second looks at the effect on the people after the war finished (first world war). The video below shows the finished product. Below, i have added some of the preperation work to show how these two pieces of work came to be.

Isod mae’r fideo yn dangos fy mhrif ddarn o waith.

Below is the video showing my final piece of work

Isod mae’r llun o’r ail ddarn o waith:

Below is a picture of the second piece of work:

This image has an empty alt attribute; its file name is img_e22651.jpg

Mae’r ddau baentiad cyntaf isod yn ddwy allan o’r 8 darluniad o waliau yr oeddwn am ddefnyddio. Fy syniad yn fyr yw adeiladu tŷ, a’i pheintio gyda sloganau gwrthryfel ar y tu allan ac efo digwyddiadau rhyfel ar y tu fewn. Rydw i wedi bod yn paratoi ac edrych i mewn i ddeunyddiau gwahanol i’w ddefnyddio.

The first two paintings below are two out of 8 designs for walls that i was going to use. My idea, written shortly, is to build a house and to paint it with anti-war slogans on the outside and with war scenes on the inside. I have been preparing and looking into different materials to use.

Geiriau: A oes heddwch?
Words: Is there Peace?
y waliau tu fewn, symbol o’r Ieuenctid Hitler, sydd wedi cael ei effeithio yn feddyliol i weithredu mewn ffordd y Natsiaid.
One of the inside walls, a symbol of the Hitler Youth, who had been brainwashed to work in the ways of the Nazis.
Syniadau lliwiau
colour plan

Cyn cychwyn ar y gwaith gorffenedig roedd yn rhaid gwybod ei fod am weithio, felly, gyda chymorth gan fy nhad, creais y maquette 10 gwaith yn llai na’r maint arferol. Isod mae fideo yn dangos y tu allan wedi ei pheintio.

Before i started the final product i had to know that it was going to work, so with the hep of my dad, i made a maquette 10 times smaller than the finished size. Below is a video showing the outside painted.

Dechrau ar y proses o greu’r adeilad:

Starting the process of creating the building:


Daeth y pren o C.L Jones. Rydw i wedi penderfynu defnyddio Shutterply ar gyfer y waliau a Scant Timbers ar gyfer y fframiau, i sicrhau ei fod mor rhad â phosib, heb ddefnyddio rhywbeth anaddas. Mae’r adeilad am ddod i faint o 8Troedfeddx8Troedfedd

The wood came from C.L Jones. I have decided to use Shutterply for the walls and Scant Timbers for the frames, to make sure that it is as cheap as possible without using something unsuitable. The building comes to the size of 8ftx8ft.

ar ol 2 ddiwrnod o paratoi a mathemateg, roedden ni’n rhoi’r ty i fyny.
After 2 days of preparing and a lot of maths, we were putting the house up.

Ar ôl rhoi’r pren yn ei le a’i chadarnhau ei fod ddim am syrthio, roedd yn rhaid rhoi papur newydd ar draws y llawr a chychwyn paentio’r waliau efo’r primer undercoat. Llun i ddangos isod.

After putting the wood up and making sure it wasnt going to fall down, it was time to cover the floor with newspaper and start preparing the wood with primer undercoat. Picture to show is below.

panoramic view

Cefais y syniad i ddefnyddio rhyfel fel thema tra’n y coleg, ond yn lle edrych arni yn gyffredinol roeddwn eisiau edrych o safbwynt gwrthryfelwyr. Y syniad tu ôl i’r project yma yw dangos ochr arall i ryfel o farn rhywyn sydd ddim yn cytuno efo‘r syniad fod rhyfel yn setlo problemau gwladol. Mae’r darn o waith yn dangos ar y tu allan, adeilad sydd ar fu’n syrthio i ddarnau ac wedi ei orchuddio efo sloganau gwrthryfel, gan gynnwys geiriau Hedd Wyn o’r gerdd ‘Rhyfel’. Ar y tu fewn rydw i wedi trio dod ar draws erchyllterau rhyfel a’u heffaith ar y gydwybod. Rydw I wedi mentro dangos fod plant yn cael eu tynnu i mewn i’r fyddin, mewn rhai gwledydd mor ifanc â 15 i ddechrau’r hyfforddiant. Rydw I wedi dangos sut roedd grwpiau megis y Hitler Youth yn ystod y Trydydd Reich yn cyflyru’r plant i feddwl fel yr oedden nhw eisiau, ac weithiau mynd yn erbyn eu teuluoedd eu hunain. Yma dwi wedi defnyddio geiriau Gwenallt o’r gerdd ‘Y Coed’. Enw’r gwaith yw Dioddefaint oherwydd dwi eisiau pwysleisio, er bod y rhyfeloedd wedi dod a buddugoliaeth i wledydd, roedd pawb yn dioddef mewn un ffordd neu arall, yn feddyliol neu yn gorfforol. Dwi eisiau pwysleisio nad yw trais yn ateb i bob dim, ac mae’n well siarad efo’ch gilydd i setlo camgymeriadau.

I had the idea to use war as a theme while still in college, but instead of looking at it generally, I have decided to look at it from the perspective of a peacemaker. The idea behind this project is to show another side to war, from the opinion of someone who doesnt agree that war is the answer to solve state problems. On the outside, this piece of work shows a building that is falling apart and covered in anti-war slogans, including the words from the poem ‘Rhyfel’ by the poet Hedd Wyn. On the inside I have tried to bring across the atrocities of war and its effect on the conscience. I have tried to show that children get pulled into the military, in some countries as young as 15 to start their training. I have tried to show how some groups like the Hitler Youth in the Third Reich brainwashed children to think in their ways, and even sometimes going against their own families. Here I have included the words of Gwenallt from the poem ‘Y Coed’. This piece of work has received the title ‘Dioddefaint’, which translates to ‘Suffering’, because I want to emphasise that, even though wars have brought victory over countries, they have also affected the people mentally and physically. I want to emphasise that violence is not the answer to everything, and it’s better to speak to one another to sort out the mistakes.

dwi wedi ychwanegu chains ar y traed, a hefyd shot gwn i’r pen ar y ffigwr olaf.
I have added chains around the feet, and a gun shot to the head on the last figure
dyma’r wal oedd i fod yn golygfa ysbytu, ond ar ol ei drio ar raddfa fawr nes i benderfynnu i beidio wneud hyn a cael 3 bachgen arall, efo un yn pwyntio gwn ar y hogia yr ochr arall.
This wall was originally planned to show a hospital scene, but after trying out the work on a larger scale i decided to not do this and have three other boys, with one pointing a gun at the boys on the other wall.

Wrth fynd ymlaen penderfynais hanner ffordd trwy’r gwaith i gymryd amser i greu fwy o waith paratoadol ac astudio fwy o arlunwyr. Dwi wedi bod yn edrych ar arlunwyr rhyfel, sydd wedi creu darluniadau addas i’r thema.

While going on with the work and getting around half way through the project, i decided to take more time to do more preparation work and study more artists work. I’ve been looking at war artists, who have created work relevant to this piece of work.

astudio gwaith Stanley Spencer
studying Stanley Spencers work
astudio gwaith Don McCullin
studying Don McCullin’s work
Astudio gwaith Thomas Lea
Studying Thomas Lea’s work
Astudio gwaith Anselm Kiefer
Studying Anselm Kiefer’s work
Astudio gwaith Stanley Spencer, Anselm Kiefer ac Paul Nash
A combined study of Stanley Spencer, Anselm Kiefer and Paul Nash

Ers gorffen y gwaith, roeddwn yn gorfod penderfynu sut yn union yr oeddwn am dangos y gwaith i’r cyhoedd. Wrth siarad efo fy rhieni, daethant i’r canlyniad er mwyn dangos y gwaith mewn golau gwell, roedd yn rhaid cymryd y gwaith i lawr a’i roi nol i fyny y tu allan. Aethant i’r broses i’w symud tu allan, ac wedyn ei ffilmio.

After finishing the work, i had to decide exactly how i was going to show this work to the public. After speaking to my parents, we came to the conclusion that in order to get the best lighting on the work it would have to be taken down and put back up outside. So we went into the process of taing it down and then we started filming it.

Y gerddoriaeth sydd i’w glywed yn y fideo yw Adagio for Strings gan Samuel Barber, sydd yn cael ei chwarae ar y piano gan fy nhad, ac Adagio in Sol Minor gan Albinoni, sydd yn cael ei chwarae ar y ffliwt gennyf i, ac ar yr organ eto gan fy nhad.

The music that is heard in the video is Adagio for Strings by Samuel Barber, which is playedon the piano by my dad, and Adagio in Sol Minor by Albinoni, which is played on the flute by me, and on the organ again by my dad.

Rydw i wedi penderfynu creu gwaith llai, yn edrych i mewn i sut oedd bywyd i’r bobl gyffredin cyn, rhwng ac ar ôl y ddau ryfel. dyma fy ngwaith ymchwil. Rydw i’n gobeithio gyda digon o amser byddaf yn gallu creu weithiau celf i gyd fynd efo’r gwaith.

I have decided to create a smaller piece of work, looking into how life was for the public before, between and after both world wars, while looking at Britain’s perspective. Here is my research work. I am hoping after finishing everything else there will still be plenty of time to complete this work.

dyma’r llun gwreiddiol a roddodd inspiration i’r paentiad uchod.
here is the original picture that inspired the painting above.

Dwi wedi dechrau ar ddarn o waith sy’n targedu’r bobl ddi-waith yn ystod y 1930au, lle ddechreuodd y dirwasgiad mynd yn waeth eto ar ôl Cwymp Wall Street. Roedd y wlad mewn dirwasgiad yn barod ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd roedd llai o alw am y diwydiannau trwm oherwydd roedd gwledydd fel Japan wedi moderneiddio eu diwydiannau, ac felly doedd dim galw am y deunyddiau a ddaeth o lefydd fel y Rhondda, felly pan ddaeth y milwyr yn ôl o Ryfel fe sylweddolant nad oedd gwaith ar ôl iddynt a ddaethon nhw’n ddi-waith a syrthio i mewn i dlodi a dirwasgiad.

i have started a piece of work that targets the unemplyed in the 1930’s, when the depression started to escalate after Wall Street Crash in America. Britain was already deep into depression ever since the end of the First World War, because there was less call for materials from the heavy industries which employed many of Britains people. This was the case because countries like Japan had modernised their industries, and no one wanted the older goods. Places like the Rhondda in South Wales were well known for their heavy industries and when the soldiers came back from the war they couldnt find any work for themselves and there fore became unemployed and fell into poverty and depression.

symbol o ddiweithdra a ddirwasgiad di-dor
a symbol of unemployment and continous depression.

Unfortunately the work below is a written essay in the welsh languagethat has not been translated due to the deadlines and the importance to finish the main field of work. To summarise it looks into what the people’s lives were like from before the first world war and also during the 1930’s during the depression.

Astudiaeth cyn-ryfel, Rhyfel Byd Cyntaf.

Rydw i wedi ysgrifennu traethawd yn ateb y cwestiwn canlynol:

I ba raddau y gwnaeth diwygiadau’r llywodraeth Ryddfrydol lwyddo i leddfu’r broblem yn ymwneud a thlodi yn ystod y cyfnod rhwng 1906 a 1914?

Ar ddechrau’r 20fed ganrif sylweddolodd y Llywodraeth fod y broblem o thlodi llawer waeth nag oedden nhw’n meddwl. Cyflwynodd y Llywodraeth Ryddfrydol newydd deddfau r mayn ateb y broblem. Sylweddolynt pa baobl oedd angen a gallent. Yr oedd y Deddfau yn llwyddiannus yn tymor-byr ond ddim mor llwyddiannus yn y tymor-hir.

Penderfynnodd y Rhydfrydwyr helpu’r plant, yr henoed, y gweithwyr, y claf, a’r di-waith. Pasiwyd pedwar ddeddf er mwyn helpu’r plant. Bu ddau o’r rhain yn lwyddiannus. Cafodd y cynghorau lleol yr hawl i ddarparu prydau bwyd yn rhad i blant o’r teuluoedd tlotaf. Hwn oedd y ddeddf prydau bwyd rhad (1906). Talwyd am y prydau gan drethi lleol. Erbyn 1914 derbynai dros 158,000 o blant brydau bwyd rhad unwaith y dydd, bob dydd. Canfu’r ymchwilwyr fod tyfaint y plant wedi arafu a bod eu pwysau corfforol wedi gostwng yn ystod gwyliau’r ysgol. Awgryma hyn bod prydau bwyd yn gyfraniad pwysig I iechyd plant tlawd. Er mwyn helpu sefyllfa’r henoed, cyflwynwyd y ddeddf pensiynau yn 1908. Roedd hyn yn llwyddiant oherwydd nad oedd eu dyfodol yn dibynnu a’r tlotai. Roedd pawb yn derbyn pensiwn dros 70 mlwydd oed, oherwydd nad oedd yn ddibynnol ar gyflog. Er mwyn helpu’r Gweithwyr draparir deddf Iawndal y Gweithwyr yn 1906. estyniad o deddf 1887 oedd hon, ac roedd yn weithredol dros chwe miliwn ychwanegol o weithwyr a allai erbyn yn hawlio iawndal am anafiadau ac afiechydon oedd wedi eu hachosi gan amodau gwaith. Er hyn oherwydd na ohennwyd isafswm cyflog mewn rhai busnesau achosodd ymdrechion y llywodraethau I sefyllfa tlodi I waethygu. Roedd methiant I gyflwyno nifer bendant o oriau gwaith yn ychwanegu at hyn. Ar gyfer helpu’r Claf sefydlwyd deddf yr Yswiriant Cenedlaethol (1911), Rhan 1. Sefydlodd y ddeddf yma gynllun yswiriant a’i fwriad oedd atal tlodi o achos salwch. Gallai gweithwyr yswirio eu hunain rhag salwch a gallent dynnu arian oddi wrth y cynllun os aent yn sal a methu gweithio. Cawsai gweithwyr oedd ag yswiriant 10 swllt yr wythnos pan oeddynt yn sal ond dim on am uchafswm o 26 wythnos. Un rheswm mawr dros dlodi oedd salwch a cholli gwaith. Felly byddai arian yn dod I mewn gan ‘Fudd-dal yswiriant tal salwch’ yn helpu teuluoedd mewn amseroedd caled. Er mwyn helpu’r Di-waith cyflwynwyd y Cyfniwedfeydd Llafur yn 1909. roedd y rhain yn debyg I ganolfannau gwaith modern lle gallai’r di-waith gofrestru a lle gallai cyflogwyr ddod o hyd I weithwyr addas. Erbyn 1914, roedd 1 miliwn o bobl yn cael eu cyflogi drwy’r gyfnewidfa lafur. Roedd y cymorth a roddai’r Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol yn ddefnyddiol iawn i’r gweithwyr, gan y golygai na fyddent bellach yn dlawd ar un waith. Roedd hefyd yn lleihau’r siawns o fod yn dlawd gan fod ganddynt 15 wythnos I chwilio am ffynhonnell arall o incwm. Wnaeth yr rhain newid agwedd y llywodraeth tuag at y tlodion. Cyn y ddiwygiad Rhyddfrydol roedd y llywodraeth yn dilyn y polisi Laissez-faire ac yn beio’r broblem ar meddwdod, diogi ac agwedd troseddol y tlawd eu hun. Ar ol canfyddiadau Booth a Rowntree, sylweddolynt roedd yn amhosib I fyw ar y cyflog a derbynai’r tlawd. Roedd maint y tlodi yn fwy nag oedd y Llywodraeth yn feddwl. Bu’r ffaith fod bron 30% o Llundain ac Efrog yn dlawd yn meddwl fod y broblem yn fawr iawn gan ei fod yn rhan o’r ddau brif ddinas yn Lloegr. Dechreuant ymyrryd yn bywydau’r tlawd. Roeddynt yn credu bod ganddynt rol mewn cael gwared a tlodi. Cychwynnodd diwygiad cymdeithasol er nad bwriad y llywodraeth oedd ffurfio Gwladwriaeth les Gynhwysfawr.

Ar ochr arall y ddadl, nad oedd llawer y diwygiadau yn orfodol. Roedd y niferoedd oedd yn cael eu cynorthwyo yn isel. e.e. Nad oedd yr Yswiriant Cenedlaethol yn ddigonol i’r teulu I gyd. Roedd ar gyfer y gweithiwr ar gweithiwr yn unig. Roedd cyfyngiadau ar y pensiynau, gan dim ond pobl dros 70 mlwydd oed oedd yn cael derbyn, derbyn llai na 21 swllt yr wythnos ac heb mynd i’r carchar oedd yn ei dderbyn. Roedd effaith y diwygiadau ar y rhai oedd yn cael eu cynorthwyo yn fychan. Dim on y gweithwyr yn unig oedd wedi eu hyswirio oedd yn derbyn triniaeth meddygol am ddim. Nid oedd oedd aelodau eraill y teulu yn elwa oddi wrth y cynllun, waeth pa mor sal bynnag fyddent. Bu’r ffaith fod diwygiadau yn cael ei gyflwyno yn peth dda, ond roedd eu heffeithrwydd yn fychan. Y mae dadl, i’w wneud efo Deddf Yswiriant Gwladol (1911), Rhan 2, fod y polisi yn hybu tlodi mewn gwirionedd, gan fod hyn yn golygu gostwng cyflog i’r gweithwyr ac nad oedd yn weithredol ond am 15 wythnos. Golygai hyn nad oedd cefnogaeth ariannol ganddynt wedi’r cyfnod hwn. Mae dadl, efallai, yn enwedig efo’r Yswiriant Cenedlaethol, fod hyn yn gallu arwain at fwy o dlodi oherwydd fod y gweithwyr yn gorfod cyfrannu arian o’i gyflog ei hun tuag at y cynllun, roedd hyn yn golygu fod eu cyflog wythnosol/misol yn llai, ac efallai yn golygu mwy o dlodi I rai teuluoedd.

Roedd llawer o bobl dosbarth uwch, ac y bobl a fu’n rhan o’r Blaid Rhydfrydwyr yn gwrthwynebu’r diwygiadau, gan ar gyfer rhai, y nhw a fu’n gorfod cyfrannu ar ffurf trethi. Erbyn 1914, bu ataliad i’r ddiwygio oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Rhyddfrydwyr eisiau ehangu pellach ar y diwygio cymdeithasol ond yn methu oherwydd fod problemau waeth, megis ymosodiad o wlad arall e.e. yr Almaen. Nad oedd pob ddeddf yn orfodol. Bu hyn yn broblem, yn enwedig efo’r Deddf Prydau Bwyd Rhad 1906, oherwydd er gwelwyd llwyddiant yn y siroedd lle cynhaliwyd y ddeddf, roedd I fyny i’r cynghorau ddewis a oedden nhw eisiau cynnal y ddeddf.

Er fod y Rhyddfrydwyr wedi trio I ateb y broblem o dlodi, mae’n amhosib ddeud eu fod wedi bod yn hollol lwyddiannus, oherwydd rydym dal I weld tlodi yn y newyddion, heddiw. Yn gyffredinol, nododd y diwygiadau Rhyddfrydol drobwynt o’r agwedd laissez-faire tuag at agwedd mwy cyfunol. Ni wnaeth y diwygiadau wneud argraff mawr ar y problem tlodi. Roedd y pensiynau a roddwyd yn annigonol a chyfyngwyd budd-daliadau diwethdra I rai mathau o waith, ac wedyn nid oeddynt ond yn darparu ar gyfer y gweithwyr, ac nid ar gyfer ei deulu. Roedd y llywodraeth yn barod I ymyrryd er mwyn helpu’r tlawd, ond roedd rhaid i’r tlawd hefyd eu helpu eu hunain, drwy wneud cyfraniadau tuag at eu budd-daliadau.

Astudiaeth rhwng y ddau ryfel:

Roedd y 1930au yn gyfnod o ddirwasgiad, amddifadedd ac dirywiad di-dor.  Pa mor ddilys yw’r dehongliad yma? 

Dyma’r ddehongliad traddodiadol o’r 1930au.  Cafodd ei ffurfio yn y 1940au a’r 1950au.  Dehongliad traddodiadol yw lle bod rhywyn o’r cyfnod a astudwyd wedi ysgrifennu llyfr, cylchgrawn, erthygl mewn papur newydd I ddweud beth a ddigwyddodd yn y cyfnod yno.  Mae ddau fforddd o edrych ar digwyddiad.  Yr ail yw’r dehongliad adolygiadol.  Dechreuodd pobl ysgrifennu dehongliadau felly, ar ol y 1970au. Yn ol y ddehongliad adolygiadol yr oedd y 1930au yn gyfnod o ffyniant economaidd a thwf mewn safonau byw.  Ffurfwyd y dehongliad yma yn y 1970au a’r 1980au. 

Yr oedd yr haneswyr traddodiadol yn ffocysu ar ffigyrau diweithdra ardaloedd diwydiannol. Daeth delweddau fel llyfr George Orwell- Road to Wigan Pier a dynion Jarrow mewn fflat caps yn symbolau o’r cyfnod. Roedd teimlad o obaith yn y cyfnod ar ol ennill y rhyfel, gan redden nhw wedi cael addewid o Wladwriaeth Les a dim diweithdra, er hyn, mae’r cwestiwn yn awgrymu fod y 1930au yn gyfnnod o ddirwasgiad, amddifadedd a dirywaid di-dor.

Dehongliad Traddodiadol 

Ffynhonnell 1 

Many of the larger houses in St Anne’s ward go back to the late eighteenth century, when they were the dwellings of prosperous merchants. Now they make slums even more deplorable than the back-to-back cottage, each room sub-let to a separate family, dilapidated and comfortless, lacking sanitary conveniences and even taps and sinks, nearly every family dependent for its cooking and heating of water on an incredibly unsuitable fire-grate.’ 

Jones, D.Caradog (ed.), The Social Survey of Merseyside Vol.i, pp. 264-6, Liverpool University 1934 

Mae’r ffynhonnell o werth i hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn dystiolaeth o amddifadedd yn y 1930au.  Mae’r ffynhonnell yn trafod amodau byw yn ward St Annes yn ardal Lerpwl. Disgrifir yr adeiladau fel slymiau ‘more deplorable than the back-to-back cottage’.  Mae’r ffaith ei fod yn dweud fod ystafelloedd yn ‘sub-let’ i teuluoedd gwahanol yn awgrymu bod pobl mor dlawd, eu bod methu fforddio rhent, fel ei bod yn gorfod rhentu allan ystafell i deuluoedd eraill a bod teuluoedd eraill ond yn gallu fforddio rhentu un ystafell.  Mae’r awdur o werth i hanesydd oherwydd ei fod yn rhywun o’r cyfnod sydd wedi asesu I fewn I amodau byw yn y cyfnod.  Bu Jones.D. Caradog yn asesu sut roedd y dosbarth gweithiol yn byw gyda incwm isel, ac hefyd amodau byw y ddiwaith.  Mae’r dyddiad o werth i hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn cofnodi cyfnod oedd ddwy-flynedd ar ol y dyddiad yr oedd y gwaethaf o’r dirwasgiad i fod drosodd.  Mae’r pwrpas hefyd yn bwysig I hanesydd oherwydd ei fod wedi gwneud archwiliad cymdeithasol yn benodol ar amodau cymdeithasol ardal Lerpwl.  Gallaf cefnogi’r ffynhonnell yma gan ddweud ei fod yn ddinas, er hyn mae cyfyngiad I’r ffynhonnell gan ei fod wedi’w selio ar un ardal yn unig.

Dengys y ffynhonnell sut bod tai o’r Deunawfed Ganrif mewn cyflwr gwell na’r slymiau, gan eu ddisgrifio yn ‘Deplorable’ gan nad oedd dim cysur, dim cyfleusterau iechyd, weithiau yn cynnwys pethau syml fel sinc a tapiau.  Mae’n dangos fod bywyd wedi gwaethygu yn yr adeg yma ac bod y pobl a oedd yn byw yn y slymiau yn byw mewn dirwasgiad llwyr, heb cyfleusterau ac yn dibynnu yn lle yr oedden yn byw, nad oedd ganddyn gwaith. ‘…lacking sanitary conveniences and even taps and sinks…’.  Mae’n debyg all hanesydd sy’n astudio’r 1930au ddefnyddio’r tystiolaeth yma er mwyn disgrifio yn ei waith sut bod safon byw yn ystod y cyfnod, ac beth oedd ei effaith ar y bobl.  Byddai’r haneswr yn dilyn y golwg traddodiadol, gan fod y ffynhonnell yn disgrifio’r cyfnod I fod yn warthus o sal ar gyfer cyfleusterau iechyd.  Mae’n bosib fyddai haneswr fel Juliet Gardiner defnyddio’r tystiolaeth yma wrth ysgrifennu ei llyfr ‘The Thirties: An Intimate History’. “…the terrible slums and overcrowded housing that blighted most large industrial cities.” 

Ffynhonnell 2 

‘’ Miss WILKINSON – I beg to ask leave to present to this Honourable House the Petition of the people of Jarrow praying for assistance in the resuscitation of its industry. During the last 15 years Jarrow has passed through a period of industrial depression without parallel in the town’s history. Its shipyard is closed. Its steelworks have been denied the right to reopen. Where formerly 8,000 people, many of them skilled workers, were employed, only 100 men are now employed on a temporary scheme. The town cannot be left derelict, and therefore your Petitioners humbly pray that His Majesty’s Government and this honourable House should realise the urgent need that work should be provided for the town without further delay. 

Sir NICHOLAS GRATTAN-DOYLE – I beg to ask leave to present a Petition signed by 68,502 people on Tyneside and adjacent areas on behalf of the town of Jarrow. This humble Petition showeth that, whereas for 15 years Jarrow has endured industrial depression without parallel in the town’s history, all efforts for the resuscitation of the industry have failed, and the future holds no prospect of work for its many thousands of unemployed. Therefore, your Petitioners humbly pray that the necessary act of assistance be given by the Government for the provision of work in the town of Jarrow.’’ 

Parliamentary Transcript; Petitions for Jarrow; 04 November 1936, vol 317 

Mae ffynhonnell Ellen Wilkinson o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dystiolaeth o gorymdaith newyn Jarrow yn apelio, gyda’u Aelod Seneddol, sef Ellen Wilkinson am gymorth I ddianc rhag y dirwasgiad, amddifadedd, ac y dirywiad di-dor oedd yn bodoli yn Jarrow, gan cyflwyno ddeiseb.; “The town cannot be left derelict, and therefore your Petitioners humbly pray that His Majesty’s Government and this honourable House should realise the urgent need that work should be provided for the town without further delay.” 

Testun y ffynhonnell yw diweithdra torfol di-dor ac roedd yr ardal yn dioddef oherwydd y ddirwasgiad yn y diwydiannau trwm – adeiladu llongau a’r diwydiant dur, nid oedd gwaith arall i gael, felly roedd yn ardal mewn dirwasgiad llwyr.  Roeddent yn mynd I Lundain I gyflwyno ddeiseb I’r senedd gan drigolion Jarrow, trwylaw ei heilod seneddol, Ellen Wilkinson.  Mae’r ffynhonnell o werth i hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dangos fod y diweithdra a’r dirwasgiad economaidd yn effaith tymor hir ‘15 years.’  Dywedwyd fod y tref wedi marw ‘left derelict’ ac yn crefu ar y llywodraeth I wneud rhywbeth, gan bod dim swyddi parhaol eraill I gymryd eu lle, ac roedd y poblogaeth gyfan yn ddiwaith.  Mae o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dangos dau diwydiant, dan ddirwasgiad mawr a ddioddefaint torfol, hir-dymor.  Mae arwyddocad y dyddiad o bwys I hanesydd traddodiadol oherwydd mae yng nghanol y 1930au, nid y 30au cynnar pan oedd y dirwasgiad I fod ar ei hanterth.

Ffyhonnell 3 

When you see the unemployment, figures quoted at two million, it is fatally easy to take this as meaning that two million people are out of work and the rest of the population is comparatively comfortable. I admit that till recently I was in the habit of doing so myself. I used to calculate that if you put the registered unemployed at round about two millions and threw in the destitute and those who for one reason and another were not registered, you might take the number of underfed people in England (for everyone on the dole or thereabouts is underfed) as being, at the very most, five millions.’ 

This is an enormous under-estimate, because, in the first place, the only people shown on the unemployment figures are those actually drawing the dole – that is, in general, heads of families. An unemployed man’s dependents do not figure on the list unless they too are drawing a separate allowance. A Labour Exchange officer told me that to get at the real number of people living on (not drawing) the dole, you have got to multiply the official figures by something over three. This alone brings the number of unemployed to round about six million. But in addition, there are great numbers of people who are in work but who, from a financial point of view, might equally well be unemployed, because they are not drawing anything that can be described as a living wage……’ 

‘…. Take the figures for Wigan, which is typical enough of the industrial and mining district. The number of insured workers is round about 36,000 (26,000 men and 10,000 women). Of these, the number unemployed at the beginning of 1936 was about 10,000. But this was in winter when the mines are working full time; in summer it would probably be 12,000. Multiply by three, as above, and you get 30,000 or 36,000. The total population OF Wigan is a little under 87,000; so that at any moment more than one person in three out of the whole population – not merely the registered workers – is either drawing or living on the dole….’ 

Orwell, George, The Road to Wigan Pier,Victor Gollankz, 1937 

Mae ffynhonnell George Orwell o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd mae’n dystiolaeth o niferoedd o bobl ddi-waith o’r cyfnod ac yn disgrifio fod y cyfnod yn un o ddirywiad di-dor, a oedd yn bodoli yn Lloegr yn y cyfnod ac astudiwyd. ‘I used to calculate that if you put the registered unemployed at round about two millions and threw in the destitute and those who for one reason and another were not registered, you might take the number of underfed people in England (for everyone on the dole or thereabouts is underfed) as being, at the very most, five millions.’   Testun y ffynhonnell yw diweithdra torfol di-dor yn Lloegr, ond yn enwedig yn Wigan.  Mae’n dangos tystiolaeth o ffigyrau, a efallai ag astudiwyd yn anghywir oherwydd nad oedd pawb wedi’w cofnodi ac felly nad oedd pawb yn cael eu cyfri, felly yn ol George Orwell, byddai’r ffigyrau wedi’w dyblu o leiaf.  Dywedwyd, fod poblogaeth Wigan o dan 87,000, ac roedd o leiaf un allan o tri yn dioddef ac yn byw ar y dol, neu yn agos ati. Er hyn nad yw’r ffigyrau yma yn gywir oherwydd nid oedd pawb yn gallu hawlio budd-dal diweithdra e.e. marched a gweithwyr nad oedd wedi’w yswirio. Mae o werth i hanesydd oherwydd mae’n dangos tystiolaeth o ddirwasgiad, amddifadedd a dirywiad di-dor y cyfnod, sy’n ategu at y cwestiwn uchod.  Mae George Orwell o werth I hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn byw ac yn ysgrifennu yn ystod y 1930au, ag astudiwyd yma, ac felly efo barn hanesydd traddodiadol, gan ei fod yn llygad dyst.   Bu George Orwell yn anarchydd yn hwyr yn y 1920au, ac erbyn y 1930au yn ystyriedd ei hun yn sosialydd, dyma pryd penderfynnodd ysgrifennu am tlodi ac diweithdra o ran glowyr yng Ngogledd Lloegr, ac felly cychoeddwyd y llyfr, The Road to Wigan Pier’ yn 1937.   Mae arwyddocad y dyddiad o bwys I hanesydd traddodiadol oherwydd mae yng nghanol y 1930au, sef y cyfnod sy’n cael ei astudio. 

 Dehongliadau Adolygiadol 

Ffynhonnell 1 

A youth of 20 for £2 10s on h.p can buy himself a suit … the girl can look like a fashion at even lower prices. You may have three half pence in your pocket and not a prospect in the world, and only a corner of a leaky bedroom at home … but in your new clothes you can stand on a street corner … in a private day-dream of yourself as Clark Gable or Greta Garbo which compensates you a great deal’

George Orwell ‘Road to Wigan Pier’

Mae’r ffynhonnell yma o werth I hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn son am newidiadau mewn prisoedd ar gyfer dillad. Mae’n dangos nad oedd bywyd mor ddrwg ac mae’r opsiynau o ddillad yn enwedig ar gyfer mewched wei’w lleihau ond roedd y cyflogau wedi aros yr un peth, sy’n golygu fod ei ysbryd meddyliol yn codi gan eu fod yn edrych yn well, ac mewn dillad cyfforddus.‘in a private day-dream of yourself as Clark Gable or Greta Garbo which compensates you a great deal’

Mae George Orwell o werth i hanesydd oherwydd ei fod yn ysgrifennu am rhannau wahanol o brydain, ac felly nad oedden nhw I gyd yn dioddef yr un peth. Mae’r ffynhonnell yma o werth I hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn pwysleisio roedd pobl yn mwynhau bywyd yn fwy nag oedden nhw or blaen oherwydd gostyngiad costau nwyddau. Mae’n debyg yn y llyfr ag ysgrifennwyd, nad oedd pob rhan o brydain yn mwynhau bwywd yr un fath a’r rhain. Mae’r llyfr o werth I hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn orchuddio Prydain i gyd, nid un ardal yn unig. Mae’r dyddiad o bwys I hanesydd oherwydd cafodd ei ysgrifennu yn 1937. Er fod hyn yn dyddiad traddodiadol, mae’n dilyn diwedd y 30au ac mae gan George Orwell barn wahanol am yr hyn a fu fywyd yn y cyfnod yma. Mae’n amlwg ac o werth i hanesydd y gallwn ddweud fod y ddirwasgiad, amddifadedd a dirywaid di-dor, ond erbyn diwedd y ganrif roedd bywyd wedi gwella.

Ffynhonnell 2 

A brochure for a Prestatyn holiday camp that opened in 1939.

Mae’r ffynhonnell yma o werth i hanesydd adolygaidol oherwydd ei fod yn dangos newid yn yr amser wrth i’r cwmni Thomas Cook sefydlu gwersyll gwyliau yn 1939, er mwyn rhoi adloniant newydd i pobl pob oedran.

Oherwydd y rhyfel, a’r gostyngiad isel yn oriau gwaith roedd gan y bobl fwy o amser hamdden I fynd ar wyliau. Cafodd y teledu ei greu yn ystod y 30au ond nad oedd llawer o bobl yn gallu eo hyfforddio. Roedd y mwyafrif yn ddibynnu ar y sinema. Roedd y cwmni Pathe News yn cadw pobl yn ymwybodol o’r hyn a fu’n digwydd yn ystod y rhyfel. Er hyn roedd y newyddion a roddid yn cael ei monitor gan y llywodraeth sc felly yn dangos fod Prydain yn ennill y rhyfel. Roedd hefyd yn lle dda ar gyfer ffilimiau a oedd yn cael ei wylio ar ol y rhyfel ac i fewn i’r 30au. Mae’r ffynhonnell o werth i hanesydd oherwydd ei fod yn dangos er fod y wlad yn dioddef o dirwasgiad economaidd ac amddifadedd a tlodi, roedd y boblogaeth yn gallu darganfod rhyddid a gallu mwynhau eu hunain ar wyliau mewn ardaloedd megis Prestatyn, ar lan y mor, a oedd yn neud I bobl dosbarth canol deimlo fel eu bod yn grand fel y dosbarth uwch. Mae’n debyg mi roedd cyfyngau i’r gwersyll gwyliau yma gan mae’n debyg nad oedd pawb yn gallu hyfforddio i fynd yna. Mae’n debyg hefyd, fel y gwelwyd yn ystod yr ail rhyfel byd efo’r efaciwis, nad oedd pobl y ddinasoedd wedi gweld glan y mor o’r blaen ac felly ddim yn gwybod sut i ymdrin a’r golygfeydd newydd.

Ffynhonnell 3 

 ‘He gave a glowing account of the Team Valley Trading Estate in the North East district which he said was like a romance and was ultimately expected to find work for some 20,000 people. Particularly successful had been the factories which were let to small manufacturers or traders at £1 a week, in which as many as thirty-five men or women might be employed. The Treforest Estate in South Wales is also most promising, although not quite comparable with Team Valley, and it had been contributed to the general hopefulness which now characterised the South Wales area.’

Memo written on behalf of the Minister of Labour, Ernest Brown, to Prime Minister Stanley Baldwin, 20th October 1937

Mae’r ffynhonnell yma o werth i hanesydd adolygiadol oherwydd ei fod yn dilyn y testun o pobl mewn cyflogaeth y 1937. Er ei fod wedi ei ysgrifennu yn 1937, mae’n werthfawr I hanesydd adolygiadol nid hanesydd traddodiadol oherwydd ei fod yn dilyn barn adolygiadol, sy’n golygu ei fod yn credo roedd bywyd yn gwella i rai yn y 30au, ond nid pawb. Roedd diwethdra yn broblem fawr yn y 30au efo’r dirwasgiad oherwydd roedd diwydiannau glo, llechi, a llongau e.e. y diwydiannau trwm yn dioddef ar ol y rhyfel oherwydd diffyg galw. Mae’r ffynhonnell yma yn brawf yr oedd hyn yn gwella erbyn diwedd y ganrif ac bu llefydd megis Gogledd Dwyrain Lloegr a De Cymru yn ffynnu efo gwaith. ‘Team Valley Trading Estate in the North East district… small manufacturers or traders at £1 a week, in which as many as thirty-five men or women might be employed.’ ‘The Treforest Estate in South Wales is also most promising, although not quite comparable with Team Valley, and it had been contributed to the general hopefulness which now characterised the South Wales area’

Mae’r awdur o werth i’r hanesydd oherwydd ei fod wedi helpu cael gwaith I bobl ddi waith fel sydd I’w weld o dogfen seneddol yn Llundain: There are ex-service men who have been trained by the Ministry of Labour in bricklaying, plastering, and so on. Why do not the Labour party give these men a chance so that they can get work? As an ex-service man, I am of opinion that the party opposite only care for the ex-service men when they can make capital out of them.” Mae cyfyngiad i’r ddehongliad yma oherwydd ei fod yn canolbyntio ar ardaloedd diwydiannau trwm yn unig ac nid ardaloedd diwydiant ysgafn a fuasai hefyd yn dioddef o ddiweithdra.

Mae’r cwestiwn yn awgrymu fod dirwasgiad, amddifadedd a dirywiad di-dor yn ystod y 1930au.  Ar ol edrych dros ddau farn, yr un traddodiadol a oedd yn awgrymu fod pawb yn dioddef, a’r farn adolygiadol a oedd yn awgrymu ei fod yn dibynnu ar eich statws dosbarth, ac yr ardal yr oeddech yn byw, gallaf ddweud fod y 1930au yn gyfnod o ddirwasgiad a dirywiad di-dor.  Mae’n amhosib dweud fod y 1930au yn cyfnod o amddifadedd llwyr oherwydd nad yw hyn yn wir.  Nad oedd pawb yn dioddef. 

Bibliography

1. Jones, D.Caradog (ed.), The Social Survey of Merseyside Vol.i, pp. 264-6, Liverpool University 1934

2.  Parliamentary Transcript;Petitions for Jarrow; 04 November 1936, vol 317

3. Orwell, George, The Road to Wigan Pier,Victor Gollankz, 1937 

4. Orwell, George, The Road to Wigan Pier,Victor Gollankz, 1937 

5. A brochure for a Prestatyn holiday camp that opened in 1939.

6. Memo written on behalf of the Minister of Labour, Ernest Brown, to Prime Minister Stanley Baldwin, 20th October 1937

Canfyddiadau ar-lein, iaith Saesneg:

The depression and deprivation of Wales and England during the 1930’s was the result of two key factors; the Wall Street Crash and being too dependant on heavy industries. In 1929, the American Stock market crashed and America recalled all the loans they had given to other countries in order to try and save their own economy. This generated a global depression. After the end of the First World War, Britain failed to modernise it’s industries in the way other countries were successful in doing. This made the heavy industries less profitable as countries such as JApan became cheaper to import products from. The closure of mines, shipyards, and steelworks resulted in a sharp rise in Unemployment in Britain. This in turn was detrimental to an already struggling economy. The Unemployment act 1934 set up an Unemployment Assistance Board which was responsible for carrying out a means test; these ensured only those in desperate need of financial support recieved it- who was considered desperate depended on the views of their local government. The impact of the liberal Government was limited due to the start of the world war in 1914. There had been plans to expand their social reforms however, the money had to go towards the war efforts. Had it not been for the war, the issue of poverty could have been alleviated further.

During World War Two the government became involved in people’s lives. The Beveridge Report indentified five major social problems which had to be tackled.

Throught World War Two, Britain was run by a Government which included Labour, Conservative and Liberal politicians. Winston Churchill became Prime Minister and led the British Government for the most of the war. The government became much more involved in people’s lives during the war. Far from being resented, most people welcomed this Government intervention and wanted it to go further. The Government was seen to be taking an active interest in providing for the welfare of the British people. The war greatly affected how people in Britain lived their lives.

Rationing

Britain is an island and by the outbreak of World War Two, it did not have enough farmland to sustain it’s increased population. The problem was solved by importing a great deal of goods from the British Empire. The German government tried to disrupt delivery of goods by sea to Britain. The Battle of the Atlantic saw the destruction of many British merchant ships by German U-boats. In order to cope with reduced supplies, in 1940 the Government introduced a number of measures:

The Government organised the rationing of foodstuffs, clothing and fuel during the war.

The price of restaurant meals was limited.

Extra milk and meals were provided for expectant mothers and children.

Rationing helped to change attitudes- the fact that everyone was restricted to buying a certain amount of goods, created a sense of sharing and cooperation in Britain. It was accepted that the Government was more involved in people’s health and intake.

1 thought on “Final Major Project

Leave a comment